Y Cylch Sialc

Der kaukasische Kreidekreis (The Caucasian Chalk Circle)
gan Bertolt Brecht

Trosiad gan//Adapted by: Mererid Hopwood
gyda cherddoriaeth wreiddiol fyw gan//With Live original music by: Gwenno

Mewn cydweithrediad â Theatrau Sir Gâr// In association with Theatrau Sir Gâr

“Yn y dyddiau mwyaf gwaedlyd, mae pobl dda yn byw.” Mae chwyldro ar droed a’r ddinas ar dân. Yn y dryswch, mae babi’n cael ei adael ar ôl.Mae merch ifanc yn aberthu popeth er mwyn achub y plentyn. Â’r wlad dan warchae a milwyr yn eu herlid, mae hi’n benderfynol o’i warchod, doed a ddelo. Ond mewn byd llygredig, a yw cariad yn ddigon?

Am y tro cyntaf erioed, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn troedio i fyd Bertolt Brecht gyda throsiad newydd i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood a cherddoriaeth wreiddiol yn cael ei pherfformio’n fyw gan Gwenno. Mewn cynhyrchiad newydd trawiadol, mae’r clasur hwn o’r ugeinfed ganrif yn byrlymu â cherddoriaeth, hiwmor tywyll a chymeriadau bywiog; stori epig am wneud daioni mewn byd sy’n llawn drygioni.

Revolution is in the air and a city burns. A baby is abandoned in the chaos. A young woman risks everything to save the child. With the country torn apart by war and soldiers hot on their heels, she resolves to protect him at all costs. But in a corrupt world, is love enough?

For the first time, Theatr Genedlaethol Cymru takes on Bertolt Brecht in a new Welsh-language adaptation by Mererid Hopwood with original music performed live by Gwenno. Boldly staged, this twentieth-century classic bursts with music, dark humour and larger-than-life characters; an epic story of doing the right thing when the world goes wrong.:

Cyfarwyddwr/Director: Sarah Bickerton
Cynllunydd Set a Gwisgoedd/Set and Costume designer: Ruth hall
Gwneuthurwr pypedau a Cynorthwydd Dylunio/
Puppet maker and Design Assistant: Luned Gwawr Evans
Cyfarwyddwr Pypedau/Puppet Director – Rachael Canning
Cynllunydd goleuo/Lighting designer: Joe Fletcher
Goruchwyliwr Gwisgoedd/Costume supervisor: Laura Mills